Wedi dod i dy dŷ,
Dyma fi i roi mawl i ti;
Wedi bod trwy y byd,
Does ‘na neb sydd yn debyg i ti.
Ti yw’r un sy’n gwneud fy nghalon yn llawen,
Er gwaetha’ stormydd yn fy mywyd,
Fy moliant rôf i ti a thi yn unig,
Ti sydd wedi rhoi d’addewid.
Cytgan:
Dwi eisiau diolch, dwi eisau dawnsio,
Dwi eisiau canu am dy holl ddaioni di.
Dwi eisiau diolch o waelod calon,
A gorfoleddu yn dy gariad ataf fi.
Wedi dod i dy dŷ
Dyma fi i roi mawl i ti
Wedi bod trwy y byd
Does ‘na neb sydd yn debyg i ti
Gwyn eu byd y rhai sy’n byw’n dy deml
Cânt eu bendithio yn barhaol
Sut allwn ganu am dy holl ryfeddodau?
Fydd ‘ngeiriau byth yn ddigon!
Cytgan
© 2005 Elise Gwilym o’r CD Tiwnio Mewn
PowerPoint PDF English Words Cordiau MP3