Dyma gariad, pwy a’i traetha?
Anchwiliadwy ydyw ef;
dyma gariad, i’w ddyfnderoedd
byth ni threiddia nef y nef;
dyma gariad gwyd fy enaid
uwch holl bethau gwael y llawr,
dyma gariad wna im ganu
yn y bythol wynfyd mawr.
Ymlochesaf yn ei glwyfau,
ymgysgodaf dan ei groes,
ymddigrifaf yn ei gariad,
cariad mwy na hwn nid oes;
cariad lletach yw na’r moroedd,
uwch na’r nefoedd hefyd yw:
ymddiriedaf yn dragwyddol
yn anfeidrol gariad Duw.
MARY OWEN, 1796-1875
(Caneuon Ffydd 199)
PowerPoint youtube