F’enaid, gwêl i Gethsemane,
edrych ar dy Brynwr mawr
yn yr ing a’r ymdrech meddwl,
chwys a gwaed yn llifo i lawr.
Dyma’r cariad mwyaf rhyfedd,
mwyaf rhyfedd fu erioed!
Yn yr ardd, pan ddaliwyd Iesu,
fe atebodd drosom ni,
“Gadewch iddynt hwy fynd ymaith,
yn eu lle cymerwch fi!”
Dyma’r cariad mwyaf rhyfedd,
mwyaf rhyfedd fu erioed!
THOMAS WILLAM, 1761-1844
(Caneuon Ffydd 497)
PowerPoint