Galw dy fyddin, o Dduw,
Deffra dy bobl drwy’r byd i gyd.
Galw dy fyddin o Dduw,
I gyhoeddi’th Deyrnas,
I gyhoeddi’th Air,
I gyhoeddi’th ogoniant di.
Ein gobaith a’n dymuniad
Yw gweld, drwy bob un gwlad,
Dy bobl di ar flaen y gâd.
Cyflawni dy gomisiwn
Yn un gerbron y Tad;
Yn gwbl ymroddedig, Dad.
O, Arglwydd Dduw ein Crëwr
Rhyfeddwn fyth dy fod
Yn ein defnyddio er dy glod.
Yn llawen fe’th wasnaethwn,
Ein braint yw’th ddilyn di;
Ti, Arglwydd Dduw, yw’n Brenin ni.
Steve a Vikki Cook: Raise up an army, cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones
© People of Destiny/Thankyou Music 1987. Gwein. gan Copycare
(Grym Mawl 1: 140)
PowerPoint