Gogoniant i Dduw yn y nefoedd goruchaf
Tangnefedd islaw ar y ddaear i ni;
Addolwn, moliannwn, diolchwn am d’ogoniant,
Dduw Dad hollalluog, ein brenin wyt Ti.
Arglwydd Iesu, Oen Duw sydd yn dwyn ymaith pechodau,
Fab Duw, trugarha wrthym, gwrando ein llef;
Ti’n unig sy’n sanctaidd, Ti’n unig yw’r Arglwydd,
Tad, Mab, Ysbryd Glân, yng ngogoniant y nef.
Geiriau: Y Gloria, addas. Cass Meurig
Tôn: Cadair Idris (tradd)