Gwnes addunedau fil
i gadw’r llwybyr cul
ond methu ‘rwy’;
Breswylydd mawr y berth,
chwanega eto nerth
i ddringo’r creigiau serth
heb flino mwy.
Gelynion lawer mil
sy oddeutu’r llwybyr cul
a minnau’n wan;
dal fi â’th nerthol law
rhag cwympo yma a thraw:
ymhob rhyw drallod ddaw
bydd ar fy rhan.
Er nad wyf i ond gwan,
os deil fy Nuw fi lan
ni’m maeddir ddim;
mae nerth fy Iôr yn fwy
na’u holl fyddinoedd hwy,
ni roddant imi glwy’
er maint eu grym.
MORGAN RHYS, 1716-79
(Caneuon Ffydd 763)
PowerPoint