I Dduw bo’r gogoniant, fe wnaeth bethau mawr,
rhoi’i Fab o’i fawr gariad dros holl deulu’r llawr,
rhoi’i einioes yn Iawn dros ein pechod a wnâi,
gan agor drws bywyd i bawb er eu bai.
Clod i Dduw! Clod i Dduw!
Clywed daear ei lef! Clod i Dduw! Clod i Dduw!
Llawenhaed tyrfa gref! O dewch at yr Iesu,
ein Harglwydd a’n Duw, rhowch iddo’r gogoniant,
drwy’r Iesu cawn fyw.
O berffaith achubiaeth, mor ddrud ac mor rhad
i bob un a gredo addewid Duw Dad;
i’r pennaf droseddwr yr Iesu a rydd
lawn bardwn pan ddaw at ei Arglwydd mewn ffydd.
Bu’n wych fel dysgawdwr, fe wnaeth bethau mawr,
a llwyr ein llawenydd yn Iesu yn awr,
ond mwy ein rhyfeddod, sancteiddiach ein clod o’i weld yn wefreiddiol
ryw ddydd uwch y rhod.
FRANCES J. VAN ALSTYNE, 1820-1915 cyfieithiad awdurdodedig: E. H. GRIFFITHS © Olwen Griffiths. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd 563)
PowerPoint