Iesu, Ti’n disgleirio yn d’ogoniant, breichiau led y pen agored;
Ti yw Brenin daear gyfan ac yn Arglwydd ar fy nghalon.
Golau sydd yn tywallt allan, pelydr yn cludo’r cyfan
Popeth y mae arnaf angen ddaw i’m meddiant o dy galon Di.
Tyrd lawr i deyrnasu ar y ddaear – defnyddia ein doniau ni,
Mae dy angen Di gymaint ar dy bobol,
Ti’n rhoi nôl mwy nag allwn byth ei roi i Ti
Tyrd mewn i deyrnasu yn fy mywyd, trawsffurfia ‘meddyliau i.
Mae dy angen Di gymaint arnaf finnau,
Dwi’n rhoi fy hun ar yr allor i Ti,
I Ti-i-i. I Ti-i-i. I Ti-i-i.
Beth yw’r teimladau hyn sy’n codi? Beth yw’r synhwyro oddi mewn?
Ai pêr awelon o wlad Canaan yn chwythu arnaf fi mor ewn?
Beth wyt Ti eisau oddi wrthyf? Sut allai fyth dy gyrraedd Di?
Oes posib teimlo mwy o’th gariad yn treiddio mêr fy esgyrn i?
©Elise Gwilym
PowerPoint MP3 cordiau