Mae cariad Crist uwchlaw pob dawn,
pwy ŵyr ei lawn derfynau?
Ni chenfydd llygad cerwb craff
na seraff ei fesurau.
Mae hyd a lled ei gariad ef
uwch nef y nef yn llifo,
a dyfnach yw na llygredd dyn,
heb drai na therfyn arno.
Mae’r hyd a’r lled a’r dyfnder maith
mewn perffaith gydweithrediad
i’w gweld yn amlwg ar y bryn,
a’r gwaed yn llyn o gariad.
ROBERT AP GWILYM DDU, 1766-1850
(Caneuon Ffydd 300)
PowerPoint