Melys ydyw cywair
ein telynau glân,
am fod oriau bywyd
oll yn llawn o gân;
nid oes gan un plentyn
hawl i fod yn drist
yn y fintai ffyddlon
sydd yn dilyn Crist.
Hosanna! pêr Hosanna!
dyrchafwn lawen lef:
câr Iesu gân y galon lân,
Hosanna iddo ef!
Hosanna! pêr Hosanna!
Hosanna! pêr Hosanna!
Hosanna iddo ef!
Pan fo’r chwarae’n llawen
yn yr heulwen iach,
agos iawn yw’r Ceidwad
i bob plentyn bach;
mae pob gwg yn cilio
pan fydd ef gerllaw,
ac mor hawdd yw cydio
yn ei dyner law.
Gwasgwn yn agosach
beunydd ato ef,
ni chawn fyth well cwmni
ar y ffordd i’r nef;
ar ei wyneb annwyl
erys gwên o hyd,
ac mor hawdd yw caru
cyfaill plant y byd.
AMANWY (David Rees Griffiths), 1882-1953 © Rhys a Rhodri Davies, Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 390)
PowerPoint