Mi godaf f’egwan lef
at Iesu yn y nef,
a rhoddaf bwys fy enaid dwys
i orffwys arno ef;
caf ynddo ras o hyfryd flas
a mwyn gymdeithas Duw;
ei nerth a rydd yn ôl y ddydd,
ei olau sydd ar lwybrau ffydd:
‘rwyf beunydd iddo’n byw.
Mae ei ddiddanwch drud
yn difa sŵn y byd
yn llwyr i mi; ‘dyw rhwysg a bri
yn ddim ond gwegi i gyd:
daw hedd i’m bron fel dwyfol don
o’i dirion gariad ef;
mi glywaf gôr ar risial fôr,
a gwelaf ddôr tangnefedd Iôr
yn agor yn y nef.
BEN DAVIES, 1864-1937
(Caneuon Ffydd 770; Atodiad 805)
PowerPoint