O na ddôi’r nefol wynt
i chwythu eto,
fel bu’n y dyddiau gynt
drwy’n gwlad yn rhuthro
nes siglo muriau’r tý
a phlygu dynion cry’;
O deued oddi fry
mae’n bryd i’w deimlo.
O na ddôi’r fflam o’r nef
i’r hen allorau,
y fflam wna’r weddi’n gref
bob hwyr a bore.
‘Does dim ond sanctaidd dân
all roi in enaid glân
a deffro newydd gân
yn ein calonnau.
O na chaem brofi i gyd
yr hen lawenydd
a’r wledd na fedd y byd,
sy’n para’n newydd.
O Iesu, dyro nawr
i ni sydd ar y llawr
ryw brawf o’r arlwy fawr
byth, byth na dderfydd.
H. T. JACOB, 1864-1957 © Roger Jacob. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 594)
PowerPoint