Pan dwi’n mynd ar fy ffordd yn y bore bach,
pan dwi’n mynd ar fy ffordd yn y p’nawn,
pan dwi’n mynd ar fy ffordd, pan mae’n nosi’n braf,
Rydw i’n gwybod fod hyn yn iawn.
Duw sy’n fy ngharu, beth bynnag a wnaf,
Duw sy’n gofalu, ble bynnag yr af.
Duw sydd yn gwybod amdanaf i gyd,
Duw sy’n bresennol bob man yn y byd.
Dad, rwy’n dy garu, er mod i yn wan,
Helpa fi i rannu Dy enw mhob man.
Hawlfraint © 2010 Nia Williams
PowerPoint PowerPoint lliw PDF MP3