Pwy all ddirnad maint ei gariad ef
A dirgelion arfaeth fawr y nef?
Crist a ddaeth i farw yn ein lle
Un waith am byth.
Roedd yn Dduw cyn rhoddi bod i’r byd;
Daeth fel Oen i farw’n aberth drud.
Cariad mor fawr i gymodi’r byd
Un waith am byth.
Fe ganwn eto am ei gariad –
Addolwn ef.
Fe ganwn eto fawl i’n Brenin
Yn y nef.
Fe ddaw yn ôl ryw ddydd i lawr o’r nef;
Pob glin a fydd yn plygu iddo ef.
‘Crist sydd Arglwydd!’, clywch y nefol gân
A bery byth.
Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones,
Who can ever say they understand (Forever more): Dave Bilbrough
Hawlfraint © 1989 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music (tym@kingsway.co.uk) Defnyddir trwy ganiatâd
(Grym mawl 1: 180)
PowerPoint