Rhoddwn glod i’th enw tirion,
Arglwydd mawr
nef a llawr,
derbyn fawl dy weision.
Yn ein gwlad a’n hen dreftadaeth
llawenhawn,
ynddi cawn
hyfryd etifeddiaeth.
Yn dy air yn iaith ein tadau
rhoist i ni
uchel fri,
trysor uwch trysorau.
Mae dy air yn llusern olau
ar ein taith
yn dy waith:
dengys y ffordd orau.
Clyw ein gweddi, sy’n dyrchafu
dros ein gwlad,
dirion Dad:
achub enaid Cymru.
R. GLYNDWR WILLIAMS © Mrs Mair Williams. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 848)
PowerPoint