Clywaf lais yr Iesu’n dweud,
Rho d’ysgwydd dan fy iau;
Blentyn gwan, tro ataf i,
Rhof i ti, fy nghras di-drai.
Cytgan
Talodd Iesu’n llawn,
Nawr rwy’n rhydd yn wir;
Golchodd staen fy mhechod cas
Yn wyn fel eira pur.
Gwn yn iawn mai ti yw’r un
All symud smotiau du
Y llewpard; dim ond ti
All doddi calon dyn.
Cytgan
Talodd Iesu’n llawn,
Nawr rwy’n rhydd yn wir;
Golchodd staen fy mhechod cas
Yn wyn fel eira pur.
Ac o flaen yr orsedd wen
Yn gyflawn safaf fi,
‘Clod i Dduw a gwaed yr Oen’,
a fydd fy unig gri.
Pont
O Clod i’r un wnaeth dalu’r pris
Caf godi eto gyda Christ.
O Clod i’r un wnaeth dalu’r pris
Caf godi eto gyda Christ.
Cytgan
Talodd Iesu’n llawn,
Nawr rwy’n rhydd yn wir;
Golchodd staen fy mhechod cas
Yn wyn fel eira pur.
Golchodd staen fy mhechod cas
Yn wyn fel eira pur.
Yn wyn fel eira pur.
Teitl Saesneg: Jesus paid it all
Geiriau: Alex Nifong; Cyfieithiad Cymraeg awdurdodedig: Aron Treharne ac Arfon Jones
Gweinyddwyd gan Integrity Music. Cedwir pob hawl. defnyddir drwy ganiatâd.