Ti yr hwn sy’n gwrando gweddi,
atat ti y daw pob cnawd;
llef yr isel ni ddirmygi,
clywi ocheneidiau’r tlawd:
dy drugaredd
sy’n cofleidio’r ddaear faith.
Minnau blygaf yn grynedig
wrth dy orsedd rasol di,
gyda hyder gostyngedig
yn haeddiannau Calfarî:
dyma sylfaen
holl obeithion euog fyd.
Hysbys wyt o’m holl anghenion
cyn eu traethu ger dy fron;
gwyddost gudd feddyliau ‘nghalon
a chrwydriadau mynych hon:
O tosturia
ymgeledda fi â’th ras.
Nid oes ond dy ras yn unig
a ddiwalla f’eisiau mawr;
O rho’r profiad bendigedig
o’i effeithiau imi nawr:
Arglwydd gwrando
mewn trugaredd ar fy llef.
MEIGANT, 1851-99
(Caneuon Ffydd 700)
PowerPoint