Wrth ddyfod, Iesu, ger dy fron
diolchwn yn yr oedfa hon
am dy addewid rasol di
i fod ymhlith y ddau neu dri.
O fewn dy byrth mae nefol rin
a heddwch i’n heneidiau blin,
ac ennaint pêr dy eiriau di
yn foddion gras i’r ddau neu dri.
O tyred yn dy rym i’n plith
i’n hadnewyddu ni â’th wlith,
ein mawl a’n diolch derbyn di
am gynnal braich y ddau neu dri.
O deued wedi’r hirlwm maith
dy wanwyn i fywhau y gwaith,
i’th Eglwys lân O anfon di
gydweithwyr at y ddau neu dri.
T. R. JONES © E. M. Jones. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 13)