Wrth gofio’i riddfannau’n yr ardd,
a’i chwŷs fel defnynnau o waed,
aredig ar gefn oedd mor hardd,
a’i daro â chleddyf ei Dad,
a’i arwain i Galfari fryn,
a’i hoelio ar groesbren o’i fodd;
pa dafod all dewi am hyn?
Pa galon mor galed na thodd?
THOMAS LEWIS, 1760-1842
(Caneuon Ffydd 519)