Mola’r Iôr, f’enaid i, f’enaid i,
Addolaf y sanctaidd Un.
Gyda’m nerth i gyd, f’enaid i,
Addolaf y sanctaidd Un.
Fe gwyd yr haul, diwrnod newydd wawria,
Mae’n amser canu Dy gân o Dduw.
Beth bynnag a ddaw, yr hyn fydd ar fy llwybr,
Rho ras i ganu wrth i’r machlud ddod.
O! gyfoeth gras, a llid mor araf,
O! enw mawr, a thynerwch hael,
Dy holl ddaioni, rwyf am fyw i’th foli;
Mae deng mil achos yn fy nghymell ymla’n.
Pan ddaw y dydd, pan fo nerth yn pallu,
Y diwedd ddaw, boed mewn hedd neu fraw;
Fy enaid a gân, Dy foliant diderfyn,
Dros ddeng mil blwydd, ac am byth ger Dy fron!
10, 000 reasons (Bless the Lord O my soul): Matt Redman & Jonas Myrin
Cyfieithiad Awdurdodedig: Meirion Morris © 2011 Thankyou Music