logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Fe roddaist heibio orsedd nef

Fe roddaist heibio orsedd nef,
I gerdded llwybr tua’r bedd,
Dioddef trais y rhai a greaist ac a geraist.
Dygaist faich f’euogrwydd i –
Marw ar groes, ond codaist ti;
Nawr teyrnasu rwyt
O’r nef yn ddyrchafedig.

O galluoga fi i’th foli di,
Prynaist fi a’th waed ar Galfari;
Cyffesaf a charaf di’n dragwyddol.
Ti yw’r unig un sy’n haeddu’r mawl
Yn y nef ac ar y llawr;
Felly canaf gân o glod –
Ti yw fy Arglwydd.

Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones,
You laid aside your majesty: Noel Richards
Hawlfraint © 1985 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/
Gwein. gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop,
gwein. gan Kingsway Music tym@kingsway.co.uk Defnyddir trwy ganiatâd

(Grym Mawl 2: 160)

PowerPoint