Achubodd fi – clywodd Ef fy nghri, A’m rhoi ar Graig sydd yn uwch na mi; A rhoddodd gân yn fy nghalon i. Haleliwia! Achubodd fi. Llawenydd pur sy’n gorlifo A heddwch dwfn sy’n ddi-drai. Caf rannu ei gyfiawnder Ef – Maddeuodd Ef fy mai. Daw breichiau’r Tad i’m cofleidio, Daw’r Ysbryd Glân i’m bywhau. […]
Daethost, Arglwydd mewn i’m mywyd a’m hachub i, Tynnaist f’enaid o’r tywyllwch mewn i’th olau di, Dioddef cosb wnest yn fy lle, Agor ffordd im fynd i’r ne’, Nawr rwy’n sefyll yma’n gyfiawn drwy dy aberth di. Iesu, fy Ngwaredwr. Ffrind pechadur, prynwr, Fy Arglwydd a’m achubwr, Ti yw fy mrenin a’m Duw. Arglwydd, beth […]
Agorodd ddrws i’r caethion i ddod o’r cystudd mawr; â’i werthfawr waed fe dalodd eu dyled oll i lawr: nid oes dim damnedigaeth i neb o’r duwiol had; fe gân y gwaredigion am rinwedd mawr ei waed. Wel dyma Un sy’n maddau pechodau rif y gwlith; ‘does mesur ar ei gariad na therfyn iddo byth; […]
Ai am fy meiau i dioddefodd Iesu mawr pan ddaeth yng ngrym ei gariad ef o entrych nef i lawr? Cyflawnai’r gyfraith bur, cyfiawnder gafodd Iawn, a’r ddyled fawr, er cymaint oedd, a dalodd ef yn llawn. Dioddefodd angau loes yn ufudd ar y bryn, a’i waed a ylch y galon ddu yn lân fel […]
Ai gwir y gair fod elw i mi Yn aberth Crist a’i werthfawr loes? A gollodd ef ei waed yn lli Dros un a’i gyrrodd Ef i’w groes? Ei gariad tra rhyfeddol yw, Fy Nuw yn marw i mi gael byw. Mor rhyfedd fu rhoi Duw mewn bedd, Pwy all amgyffred byth ei ffyrdd? Y […]
Ai Iesu, cyfaill dynol-ryw, A welir fry, a’i gnawd yn friw, A’i waed yn lliwio’r lle; Fel gŵr di-bris yn rhwym ar bren, A’r goron boenus ar ei ben? Ie, f’enaid, dyma fe. Dros f’enaid i bu’r addfwyn Oen Fel hyn, yn dioddef dirfawr boen, I’m gwneud yn rhydd yn wir; ‘Roedd yn ei fryd […]
Mae’r cerddoriaeth ar gael o wefan Bethel Music – www.bethelmusic.com. I wrando ar y gân yn Saesneg dilynwch y ddolen youtube isod. Mae’r sêr yn wylo’n brudd A’r haul yn farw fud, Gwaredwr mawr y byd yn farw Yn gelain ar y groes; Fe waedodd er ein mwyn A phwys holl feiau’r byd oedd arno. […]
Am Iesu Grist a’i farwol glwy’ boed miloedd mwy o sôn, a dweded pob rhyw enaid byw mai teilwng ydyw’r Oen. Fe ddaeth yn dlawd, etifedd nef, i ddioddef marwol boen; myneged pob creadur byw mai teilwng ydyw’r Oen. Y llu angylaidd draetha nawr am rinwedd mawr ei boen; cydganed pawb o ddynol-ryw mai teilwng […]
Anwylaf Grist, dy sanctaidd ben dan ddrain fu drosof fi; dy fendith tywallt ar fy mhen im feddwl drosot ti. Anwylaf Grist, dy ddwylo gwyn a hoeliwyd drosof fi; dy fendith ar fy nwylo boed i weithio drosot ti. Anwylaf Grist, dy sanctaidd draed a hoeliwyd drosof fi; dy fendith tywallt ar fy nhraed fel […]
Arglwydd Iesu, ti faddeuaist inni holl gamweddau’n hoes, a’n bywhau gan hoelio’n pechod aflan, atgas ar y groes: dyrchafedig Geidwad, esgyn tua’r orsedd drwy y pren; daethost ti i’n gwasanaethu, cydnabyddwn di yn Ben. Cerdd ymlaen, Orchfygwr dwyfol, yn dy fuddugoliaeth fawr, gorymdeithia dros y croesbren uwch d’elynion ar y llawr: plyg y llywodraethau iti, […]