Ni feddaf ar y ddaear fawr,
ni feddaf yn y ne’
neb ag a bery’n annwyl im
yn unig ond efe.
Mae ynddo’i hunan drysor mwy
nag sy’n yr India lawn;
fe brynodd imi fwy na’r byd
ar groesbren un prynhawn.
Fe brynodd imi euraid wisg
drwy ddioddef marwol glwy’,
a’i angau ef a guddia ‘ngwarth
i dragwyddoldeb mwy.
O na allwn rodio er ei glod
ac iddo bellach fyw,
a phob anadliad fynd i maes
i ganmol gras fy Nuw.
WILLIAM WILLIAMS, 1717-91
(Caneuon Ffydd 486)
PowerPoint