O am dreiddio i’r adnabyddiaeth
o’r unig wir a bywiol Dduw
i’r fath raddau a fo’n lladdfa
i ddychmygion o bob rhyw;
credu’r gair sy’n dweud amdano
a’i natur ynddo amlwg yw,
yn farwolaeth i bechadur
heb gael Iawn o drefniad Duw.
Yn yr adnabyddiaeth yma
mae uchel drem yn dod i lawr,
dyn yn fach, yn wael, yn ffïaidd,
Duw’n oruchel ac yn fawr;
Crist yn ei gyfryngol swyddau,
gwerthfawr anhepgorol yw,
yr enaid euog yn yr olwg
a’i gogonedda megis Duw.
ANN GRIFFITHS, 1776-1805
(Caneuon Ffydd 193)
PowerPoint