Addolwn Dduw! Safwn yma o’i flaen; Gofalu mae, ac fe’th ddeall di. Tyrd Ysbryd Glân i ddwyn ffrwyth ynom ni – Gras, cariad, hedd lifa’n rhydd. Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd yw ein Duw. (Cytganau ychwanegol) Teilwng … ; Ffyddlon …; Cadarn (Grym Mawl 1: 184) John Watson (Worship the Lord) cyf. Arfon Jones © Ampelos Music/ […]
Agorwn ddrysau mawl i bresenoldeb Duw; pan fydd ein calon ni’n y gân ei galon ef a’n clyw. Creawdwr nerthoedd byd, efe, Gynhaliwr bod, yw’r un a rydd i ninnau nerth i ganu cân ei glod. Haelioni llawn y Tad, pob enaid tlawd a’i gŵyr; ei dyner air a’i dirion ras a ddena’n serch yn […]
Am air ein Duw rhown â’n holl fryd soniarus fawl drwy’r eang fyd; mae’n llusern bur i’n traed, heb goll, mae’n llewyrch ar ein llwybrau oll. Fe rydd i’n henaid esmwythâd, fe’n tywys tua’r nefol wlad gan ddangos cariad Un yn Dri ac ennyn cariad ynom ni. I’r cryf mae’n ymborth llawn o faeth, i’r […]
Anfeidrol Greawdwr a Thad, rhagluniwr holl oesoedd y llawr: er trigo uwchlaw pob mawrhad, O derbyn ein diolch yn awr. Wrth gofio dy ddoniau erioed rhyfeddwn dosturi mor fawr: anfeidrol Greawdwr a Thad, rhagluniwr holl oesoedd y llawr. Afonydd dy gariad di-drai yw trefn dy ragluniaeth i gyd, ac nid yw eu ffrydiau yn llai […]
Anturiaf ymlaen drwy ddyfroedd a thân yn dawel yng nghwmni fy Nuw; er gwanned fy ffydd enillaf y dydd, mae Ceidwad pechadur yn fyw. Mae f’enaid yn llon a’m pwys ar ei fron; er maint fy nhrallodion daw’r dydd caf hedeg yn glau uwch gofid a gwae yn iach, a’m cadwynau yn rhydd! DAVID DAVIES, […]
Anweledig! ‘rwy’n dy garu, rhyfedd ydyw nerth dy ras: tynnu f’enaid i mor hyfryd o’i bleserau penna’ i maes; gwnaethost fwy mewn un munudyn nag a wnaethai’r byd o’r bron ennill it eisteddfa dawel yn y galon garreg hon. ‘Chlywodd clust, ni welodd llygad, ac ni ddaeth i galon dyn mo ddychmygu, chwaethach deall natur […]
Ar fôr tymhestlog teithio ‘rwyf i fyd sydd well i fyw, gan wenu ar ei stormydd oll: fy Nhad sydd wrth y llyw. Trwy leoedd geirwon, enbyd iawn, a rhwystrau o bob rhyw y’m dygwyd eisoes ar fy nhaith: fy Nhad sydd wrth y llyw. Er cael fy nhaflu o don i don, nes ofni bron […]
Arglwydd Dduw trugarha, Tyrd iacha ein gwlad; Pura â’th dân, gwna ni yn lân. Yn ostyngedig galwn arnat ti; O Dduw, tyrd atom, trugarha, O Dduw, tyrd atom, trugarha, (Tro olaf) O Dduw, tyrd atom, trugarha Cyfieithiad Cymraeg Awdurdodedig: Arfon Jones. Saesneg: Lord, have mercy, Graham Kendrick © 1985 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou […]
Arglwydd Dduw, tyrd i’n plith; Rho dy ras, ddwyfol wlith. Galwn nawr arnat ti – ‘Tyrd, ymwêl; rho’th nerth i ni.’ Ysbryd tyrd, rho iachâd; Rho dy hedd, a rhyddhad. Hiraeth dwfn sy’ ynom ni Am dy hedd a’th gariad di. Fe’th addolwn di, Fe’th addolwn di. Fe’th addolwn di… Cyfieithiad Cymraeg Awdurdodedig gan Arfon […]
Arglwydd ein Iôr, mor ardderchog yw d’enw di drwy’r holl ddaear. Arglwydd ein Iôr, mor ardderchog yw d’enw di drwy’r holl ddaear. Gosodaist dy ogoniant uwchlaw y nefoedd, O enau plant y peraist fawl i’th hun; Ti a roist y lloer a’r holl sêr yn eu lle, Beth yw dyn i ti fy Nuw? Beth […]