logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Arnom gweina dwyfol Un

Arnom gweina dwyfol Un
heb ei ofyn;
mae ei ras fel ef ei hun
yn ddiderfyn;
blodau’r maes ac adar nef
gedwir ganddo,
ond ar ddyn mae’i gariad ef
diolch iddo.

Disgwyl y boreddydd wnawn
mewn anghenion,
ac fe dyr ag effa lawn
o fendithion;
gad ei fendith ar ei ôl
wrth fynd heibio;
Duw rydd eilwaith lond ei gôl:
diolch iddo.

Ond mae bendith gyda Duw
well na’r cyfan,
bendith y bendithion yw –
duwiol anian;
am y bara bery byth
heb heneiddio
canwn tra bo ynom chwyth:
diolch iddo.

DYFED (Evan Rees), 1850-1923

(Caneuon Ffydd 212)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 12, 2015