Arnom gweina dwyfol Un heb ei ofyn; mae ei ras fel ef ei hun yn ddiderfyn; blodau’r maes ac adar nef gedwir ganddo, ond ar ddyn mae’i gariad ef diolch iddo. Disgwyl y boreddydd wnawn mewn anghenion, ac fe dyr ag effa lawn o fendithion; gad ei fendith ar ei ôl wrth fynd heibio; Duw […]
Gogoniant tragwyddol i’th enw, fy Nuw, mae’r byd yn dy gysgod yn bod ac yn byw; ni flinaist fynd heibio i feiau di-ri’ i gofio pechadur na chofia dydi. Tydi sydd yn deilwng o’r bri a’r mawrhad, tydi roddodd fywyd a chynnydd i’r had; tydi yn dy nefoedd aeddfedodd y grawn, tydi roddodd ddyddiau’r cynhaeaf […]
I Galfaria trof fy ŵyneb, ar Galfaria gwyn fy myd: y mae gras ac anfarwoldeb yn diferu drosto i gyd; pen Calfaria, yno, f’enaid, gwna dy nyth. Yno clywaf gyda’r awel salmau’r nef yn dod i lawr ddysgwyd wrth afonydd Babel gynt yng ngwlad y cystudd mawr: pen Calfaria gydia’r ddaear wrth y nef. Dringo’r […]
Mae carcharorion angau yn dianc o’u cadwwynau, a’r ffordd yn olau dros y bryn o ddyfnder glyn gofidiau; cyhoedder y newyddion a gorfoledded Seion, mae’r Iesu ar ei orsedd wen, ac ar ei ben bo’r goron! Cynefin iawn â dolur fu’r Iesu yn fy natur, gogoniant byth i’w enw ef am ddioddef dros bechadur: yn […]
Pa le mae dy hen drugareddau, hyfrydwch dy gariad erioed? Pa le mae yr hen ymweliadau fu’n tynnu y byd at dy droed? Na thro dy gynteddau’n waradwydd, ond maddau galedwch mor fawr; o breswyl dy ddwyfol sancteiddrwydd tywynned dy ŵyneb i lawr. O cofia dy hen addewidion sy’n ras a gwirionedd i gyd; mae […]
Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd, Dduw hollalluog, gyda gwawr y bore dyrchafwn fawl i ti; sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd, cadarn a thrugarog, Trindod fendigaid yw ein Harglwydd ni. Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd; nef waredigion fwriant eu coronau yn wylaidd wrth dy droed; plygu mae seraffiaid mewn addoliad ffyddlon o flaen eu Crëwr sydd yr un erioed. Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd; […]
Ysbryd Sanctaidd, dyro’r golau ar dy eiriau di dy hun; agor inni’r Ysgrythurau, dangos inni Geidwad dyn. O sancteiddia’n myfyrdodau yn dy wirioneddau byw; crea ynom ddymuniadau am drysorau meddwl Duw. Gweld yr Iesu, dyna ddigon ar y ffordd i enaid tlawd; dyma gyfaill bery’n ffyddlon, ac a lŷn yn well na brawd DYFED, 1850-1923