Darfu fy nerth, ‘rwy’n llwfwrhau,
O! gwêl yn glau f’anghenraid;
Nerth mawr, difesur, fel y môr,
A feddi’n stôr i’r gweiniaid.
Ti’m tynaist i o ganol tân,
A mi o’r blaen yn ofni;
Gwna hynny eto’r funud hon,
Mae f’enaid bron â threngi.
Mi bwysaf atat eto’n nes;
Pa les im ddigalonni?
Mae sôn amdanat yn mhob man,
Yn codi’r gwan i fyny.
William Williams, Pantycelyn
(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 121)
PowerPoint