logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dringed f’enaid o’r gwastadedd

Dringed f’enaid o’r gwastadedd,
o gaethiwed chwantau’r dydd,
i breswylio’r uchelderau
dan lywodraeth gras yn rhydd.
Yno mae fy niogelwch
rhag holl demtasiynau’r llawr;
caf yn gadarn amddiffynfa
gestyll cryf y creigiau mawr.

Yno fe gaf ffrydiau dyfroedd,
bara a rodder imi’n rhad;
gweld y Brenin yn ei degwch
fydd i’m llygaid yn fwynhad;
yn lle cyfyng drem amheuon
mi gaf weld dros dir ymhell
gweld y Deyrnas draw’n ymestyn
ac addewid dyddiau gwell.

O. M. LLOYD 1910-1980 © Gwyn M. Lloyd Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 745)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • February 16, 2016