A fynno ddewrder gwir, O deued yma; mae un a ddeil ei dir ar law a hindda: ni all temtasiwn gref ei ddigalonni ef i ado llwybrau’r nef, y gwir bererin. Ei galon ni bydd drom wrth air gwŷr ofnus, ond caiff ei boenwyr siom, cryfha’i ewyllys: ni all y rhiwiau serth na rhwystrau ddwyn […]
Arglwydd Iesu, ti faddeuaist inni holl gamweddau’n hoes, a’n bywhau gan hoelio’n pechod aflan, atgas ar y groes: dyrchafedig Geidwad, esgyn tua’r orsedd drwy y pren; daethost ti i’n gwasanaethu, cydnabyddwn di yn Ben. Cerdd ymlaen, Orchfygwr dwyfol, yn dy fuddugoliaeth fawr, gorymdeithia dros y croesbren uwch d’elynion ar y llawr: plyg y llywodraethau iti, […]
Arglwydd sanctaidd, dyrchafedig, wrth dy odre plygaf fi, ni ryfyga llygaid ofnus edrych ar d’ogoniant di. Halogedig o wefusau ydwyf fi, fe ŵyr fy Nuw, ymysg pobol halogedig o wefusau ‘rwyf yn byw. Estyn yn dy law farworyn oddi ar yr allor lân, cyffwrdd â’m gwefusau anwir, pura ‘mhechod yn y tân. Galw fi i’m […]
Crist a orchfygodd Fore’r trydydd dydd, Cododd ein Gwaredwr, Daeth o’i rwymau’n rhydd. Gwisgoedd ei ogoniant Sydd yn ddisglair iawn, Wedi gweld ei harddwch Ninnau lawenhawn. Crist a orchfygodd Fore’r trydydd dydd, Cododd ein Gwaredwr, Daeth o’i rwymau’n rhydd. Daw ef i’n cyfarch Gyda thoriad gwawr, Gwasgar ein hamheuon, Lladd ein hofnau mawr. Cryfach fyddwn […]
Dringed f’enaid o’r gwastadedd, o gaethiwed chwantau’r dydd, i breswylio’r uchelderau dan lywodraeth gras yn rhydd. Yno mae fy niogelwch rhag holl demtasiynau’r llawr; caf yn gadarn amddiffynfa gestyll cryf y creigiau mawr. Yno fe gaf ffrydiau dyfroedd, bara a rodder imi’n rhad; gweld y Brenin yn ei degwch fydd i’m llygaid yn fwynhad; yn […]
Iesu hawddgar, rho dy feddwl anhunanol ynof fi, fel y parchaf eiddo eraill megis ag y gwnaethost ti: gostyngedig fuost beunydd ac yn ddibris buost fyw; dyrchafedig wyt ym mhobman am ymwadu â ffurf Duw. Gwn dy wneuthur ar lun dynion; ar ffurf gwas y treuliaist d’oes a’th ddarostwng di dy hunan, ufuddhau hyd angau’r […]