logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Clywch y canu lond yr awel!

Clywch y canu lond yr awel!
Nodau pêr:
Hwythau’r sêr
Oll yn gwenu’n dawel.
Llon y geiriau! Llawn o gariad
Ydyw cân
Engyl glân:
“Ganed i chwi Geidwad”.

Yn y pellter draw mi glywaf
Lais y Crist:
“Ffrindiau trist,
Yn eich ing dewch ataf:
Bwriwch ymaith wag obeithion;
Ataf dewch:
Llawenhewch,
A gorffwyswch weithion”.

At ei breseb heddiw brysiaf,
Ac yn llon,
Ger ei fron
Mewn addoliad plygaf.
Wrtho’n wylaidd caf ddywedyd:
“Gweld dy wedd
Yw fy hedd
A’m diddanwch hefyd”.

Ynot mwyach yr ymserchaf;
Byw i Ti,
Marw i Ti;
Felly byth ni threngaf.
Gwn fod rhyw lawenydd odiaeth
Gyda Thi,
‘N ôl i mi
Lle ni thraidd marwolaeth.

P. Gerhardt, 1607-76 cyf. J. T. Jones, Porthmadog . © Dafydd F. Jones. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Mawl yr Ifanc, 1968)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • February 18, 2016