logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Duw anfeidrol yw dy enw

Duw anfeidrol yw dy enw,
Llanw’r nefoedd, llanw’r byd;
F’enaid innau sy’n dy olrhain
Trwy’r greadigaeth faith i gyd:
Ffaelu â’th ffeindio
I’r cyflawnder sy arna’i chwant.

D’wed a ellir nesu atat,
D’wed a ellir dy fwynhau,
Heb un gorchudd ar dy ŵyneb,
Nac un gwg i’m llwfwrhau:
Dyma’r nefoedd
A ddeisyfwn tu yma i’r bedd.

Ffaelu’r wyf fi â’th orddiwes,
Ffaelu â’th gyrraedd Di yn lân,
Er fy mod yn gweld dy gamre
Perffaith, hyfryd, draw o’m blaen:
Doed yr amser
Na bo awr heb dy fwynhau.

Yn y man ‘rwyt Ti’n cartrefu
Y cyweiriaf fi fy nyth;
Gwedd dy ŵyneb fydd fy nefoedd Yma ac oddi yma byth:
Nid oes bleser
A gyflawna byth dy le.

William Williams, Pantycelyn

PowerPoint