Ai am fy meiau i
dioddefodd Iesu mawr
pan ddaeth yng ngrym ei gariad ef
o entrych nef i lawr?
Cyflawnai’r gyfraith bur,
cyfiawnder gafodd Iawn,
a’r ddyled fawr, er cymaint oedd,
a dalodd ef yn llawn.
Dioddefodd angau loes
yn ufudd ar y bryn,
a’i waed a ylch y galon ddu
yn lân fel eira gwyn.
Bu’n angau i’n hangau ni
wrth farw ar y pren,
a thrwy ei waed y dygir llu,
drwy angau, i’r nefoedd wen.
Pan grymodd ef ei ben
wrth farw yn ein lle,
agorodd ffordd, pan rwygai’r llen,
i bur drigfannau’r ne’.
Gorchfygodd uffern ddu,
gwnaeth ben y sarff yn friw;
o’r carchar caeth y dygir llu,
drwy ras, i deulu Duw.
JOHN ELIAS, 1774-1841
(Caneuon Ffydd 482; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 06)
PowerPoint