Am bawb fu’n wrol dros y gwir
dy enw pur foliannwn;
am olau gwell i wneud dy waith
mewn hyfryd iaith diolchwn.
Tystiolaeth llu’r merthyri sydd
o blaid y ffydd ysbrydol;
O Dduw, wrth gofio’u haberth hwy,
gwna’n sêl yn fwy angerddol.
Gwna ni yn deilwng, drwy dy ras,
o ryddid teyrnas Iesu;
y breintiau brynwyd gynt â gwaed,
parhaed ein plant i’w caru.
Er mwyn y gair, er mwyn yr Oen,
er mwyn ei boen a’i gariad,
gwna ni’n ddisyflyd dros y gwir,
a gwna ni’n bur ein rhodiad.
ELFED, 1860-1953
(Caneuon Ffydd 811)
PowerPoint