Am blannu’r awydd gynt
am Feibil yn ein hiaith
a donio yn eu dydd
rai parod at y gwaith
o drosi’r gair i’n heniaith ni
diolchwn, a chlodforwn di.
Am ddycnwch rhai a fu
yn dysgu yn eu tro
yr anllythrennog rai
i’w ddarllen yn eu bro,
am eu dylanwad arnom ni
diolchwn, a chlodforwn di.
Am yr aneirif lu
a ddaeth drwy olau’r gair
i gredu yn y Gwr
a aned yn fab Mair
ac a fu farw drosom ni
diolchwn, a chlodforwn di.
O planna ynom oll
sydd heddiw yma’n byw
yr awydd er ein lles
i ddarllen gair ein Duw:
am nad wyt fyddar fyth i’n cri
diolchwn, a chlodforwn di.
DEWI TOMOS © Esgobaeth Bangor. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 178)
PowerPoint