Am dy gysgod dros dy Eglwys
drwy’r canrifoedd, molwn di;
dy gadernid hael a roddaist
yn gynhaliaeth iddi hi:
cynnal eto
briodasferch hardd yr Oen.
Am dy gwmni yn dy Eglwys
rhoddwn glod i’th enw glân;
buost ynddi yn hyfrydwch,
ac o’i chylch yn fur o dân:
dyro brofiad
o’th gymdeithas i barhau.
Am dy gariad at dy Eglwys
clyw ein moliant, dirion Dad;
grym dy gariad pur yn unig
ydyw gobaith ei glanhad:
boed gorfoledd
dy drugaredd yn ein cân.
JOHN ROBERTS, 1910-84 © Judith M. Huws. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 609)
PowerPoint