Am dy gysgod dros dy Eglwys drwy’r canrifoedd, molwn di; dy gadernid hael a roddaist yn gynhaliaeth iddi hi: cynnal eto briodasferch hardd yr Oen. Am dy gwmni yn dy Eglwys rhoddwn glod i’th enw glân; buost ynddi yn hyfrydwch, ac o’i chylch yn fur o dân: dyro brofiad o’th gymdeithas i barhau. Am dy […]
Cefais olwg ar ogoniant fy Ngwaredwr ar y pren, drwy ffenestri ei ddoluriau gwelais gariad nefoedd wen: gorfoledda f’enaid wrth ei ryfedd groes. Ymddisgleiriodd ei ogoniant dros y byd ar Galfarî; golau cariad Duw sydd eto yn tywynnu arnom ni: gorfoledded cyrrau’r ddaear wrth y groes. Hyfryd fore fydd pan glywir côr y nef a’r […]
Cofiwn am gomisiwn Iesu cyn ei fyned at y Tad: “Ewch, pregethwch yr Efengyl, gwnewch ddisgyblion ymhob gwlad.” Deil yr Iesu eto i alw yn ein dyddiau ninnau nawr; ef sy’n codi ac yn anfon gweithwyr i’w gynhaeaf mawr. Cofiwn am addewid Iesu adeg ei ddyrchafael ef: “Byddaf gyda chwi’n wastadol pan ddaw arnoch nerth […]
Doed awel gref i’r dyffryn lle ‘rŷm fel esgyrn gwyw yn disgwyl am yr egni i’n codi o farw’n fyw; O na ddôi’r cyffro nefol a’r hen orfoledd gynt i’n gwneuthur ninnau’n iraidd yn sŵn y sanctaidd wynt. Ar rai a fu mor ddiffrwyth doed y tafodau tân i ddysgu anthem moliant i blant yr […]
Edrych ar y rhai sy’n ceisio yn dy Eglwys le yn awr, dyro iddynt nerth i gofio am eu llw i’r Ceidwad mawr; cadw hwy’n ddiogel beunydd drwy holl demtasiynau’r daith, dan gawodydd gras rho gynnydd ar eu bywyd yn dy waith. O bugeilia di fyfyrdod y disgyblion ieuainc hyn, dangos iddynt fawr ryfeddod aberth […]
O tyred i’n gwaredu, Iesu da, fel cynt y daethost ar dy newydd wedd, a’r drysau ‘nghau, at rai dan ofnus bla, a’u cadarnhau â nerthol air dy hedd: llefara dy dangnefedd yma nawr a dangos inni greithiau d’aberth mawr. Yn d’aberth di mae’n gobaith ni o hyd, ni ddaw o’r ddaear ond llonyddwch brau; o […]
Pan fwyf yn teimlo’n unig lawer awr heb un cydymaith ar hyd llwybrau’r llawr, am law fy Ngheidwad y diolchaf i â’i gafael ynof er nas gwelaf hi. Pan fyddo beichiau bywyd yn trymhau a blinder byd yn peri im lesgáu, gwn am y llaw a all fy nghynnal i â’i gafael ynof er nas […]
Tydi a wyddost, Iesu mawr, am nos ein dyddiau ni; hiraethwn am yr hyfryd wawr a dardd o’th gariad di. Er disgwyl am dangnefedd gwir i lywodraethu’r byd, dan arswyd rhyfel mae ein tir a ninnau’n gaeth o hyd. Ein pechod, megis dirgel bla, sy’n difa’n dawn i fyw; ond gelli di, y Meddyg da, […]