Am gael cynhaeaf yn ei bryd
dyrchafwn foliant byw;
fe gyfoethogwyd meysydd byd
gan fendith afon Duw.
O ffynnon glir haelioni’r nef
y tardd yn hardd a byw,
ac am ei fawr ddaioni ef
y dywed afon Duw.
O hon yr yf gronynnau’r llawr
a’r egin o bob rhyw;
nid ydyw gemog wlith y wawr
ond dafnau afon Duw.
O mor ddeniadol yw ei gwedd
gan swyn o ddwyfol ryw;
pelydra heulwen gras a hedd
ar donnau afon Duw.
Pryd hau a medi geir o hyd:
bendithir dynol-ryw
â gwenau’r nef, holl oesoedd byd,
drwy dawel afon Duw.
CERNYW, 1843-1937
(Caneuon Ffydd 65)