Am ddeffro’r gwanwyn yn ei bryd a gwyrth y geni ymhob crud, a gweld rhyfeddol liwiau’r byd, i ti y rhoddwn fawl. Am roi dy nodau ar bob tant, dy felys swyn ar wefus plant ac asbri hen yn nawns y nant, i ti y rhoddwn gân. Am gael ein dysgu, gam a cham, am […]
Am gael cynhaeaf yn ei bryd dyrchafwn foliant byw; fe gyfoethogwyd meysydd byd gan fendith afon Duw. O ffynnon glir haelioni’r nef y tardd yn hardd a byw, ac am ei fawr ddaioni ef y dywed afon Duw. O hon yr yf gronynnau’r llawr a’r egin o bob rhyw; nid ydyw gemog wlith y wawr […]
I ti, O Dad, diolchwn. Am heulwen glir ac awel fwyn, i ti, O Dad, diolchwn; am harddwch ir pob maes a llwyn, i ti, O Dad, diolchwn; am flodau tlws a blagur mân, am goed y wig a’u lliwiau’n dân, am adar bach a’u melys gân, i ti, O Dad, diolchwn. Am ddail y […]
Ar ŵyl y cynhaeaf rhown ddiolch i’r Iôr am roi bara i’n cadw ni’n fyw; mae rhoddion yr Arglwydd o’n cwmpas yn stôr, rhoddwn ddiolch i’r Arglwydd ein Duw, ein Duw, rhown ddiolch i’r Arglwydd ein Duw. Efe roddodd heulwen a glaw yn ei bryd, ac aeddfedodd y dolydd a’r coed; cawn gasglu eleni holl […]
Arglwydd mawr y nef a’r ddaear, ffynnon golud pawb o hyd, arnat ti dibynna’r cread, d’ofal di sy’n dal y byd; am gysuron a bendithion, cysgod nos a heulwen dydd, derbyn ddiolch, derbyn foliant am ddaioni rhad a rhydd. Pan ddeffrown ni yn y bore, Cychwyn rhedeg gyrfa oes, Bydd yn gwmni ac arweinydd Ar […]
Cyd-ddiolchwn, Arglwydd tirion, am yr ysguboriau llawn: ti sy’n nerthu dwylo dynion a rhoi grym i gasglu’r grawn; am i ti ein cofio beunydd a chyflawni eto’r wyrth, yma canwn am y cynnydd a rhown ddiolch yn y pyrth. Byth ni phaid dy drugareddau, a’th ddaioni sydd yr un; pwy all gofio dy holl ddoniau […]
Deuwn ger dy fron yn awr i’th glodfori, Iesu mawr; diolch iti am yr haf a ffrwythau y cynhaeaf. Rhoddwn iti foliant glân, diolch, Arglwydd, yw ein cân; clod a mawl a fo i ti am gofio’r byd eleni. Diolch iti, Arglwydd Dduw, am gynhaliaeth popeth byw, am gynhaeaf yn ei bryd i borthi plant […]
Cwpan Duw (Tôn: Troyte, 394 Caneuon Ffydd) Duw sy’n rhoi harddwch i fynydd a phant, Ef sy’n rhoi bwrlwm yn nyfroedd y nant, Ef sy’n rhoi’r machlud ac Ef sy’n rhoi’r wawr; am ei holl roddion, rhown ddiolch yn awr. Duw rydd yr heulwen i’n llonni o’r nen, ‘r ôl i’r cymylau wasgaru uwchben; Ef […]
Enynner diolchgarwch, mae ffiol dyn yn llawn; bu Duw mewn mawr ddirgelwch yn taenu’r gwyrthiau grawn: doed moliant i’r cynteddau, a diolch pêr i’r pyrth; nid talu’n ôl ein beiau mae’r Tad sy’n gwneud y wyrth. Trwy’r ydfaes at yr adfyd yr â trugaredd Duw, mor hawdd i ddyn ddywedyd mai Tad trugarog yw; mae […]
Gogoniant tragwyddol i’th enw, fy Nuw, mae’r byd yn dy gysgod yn bod ac yn byw; ni flinaist fynd heibio i feiau di-ri’ i gofio pechadur na chofia dydi. Tydi sydd yn deilwng o’r bri a’r mawrhad, tydi roddodd fywyd a chynnydd i’r had; tydi yn dy nefoedd aeddfedodd y grawn, tydi roddodd ddyddiau’r cynhaeaf […]