logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Amser dod adre

Pennill 1
Bûm ar goll, (rwy’n) saff yn awr,
Ei lais oedd yn ’ngalw nôl
Bywyd fu ar chwâl,
boddi yn y storm
Rhedais oddi wrthyt ti

Pennill 2
Yna clywais di’n
galw arna i,
“Tyrd yn ôl”
Rhof fy nyled lawr,
cael coron hardd
Clywais d’alwad di

Pont
Yn dy freichiau di
Syllaf i’th wyneb cu, fy Nhad
Dwi yn saff, dwi gartre ble dw i fod
Mae fy mhechod i gyd
Wedi’i orchuddio gan dy ras
Dw i yn saff, dwi gartre ble dw i fod.

Pennill 3
(Dy) gariad di, (sydd) wedi ’nghodi i
Ces fywyd newydd, rhyddid ynot ti
Dy harddwch di’n treiddio f’enaid i
(A’m) hachub o anobaith tywyll du

Pennill 4
Gwybod pwy dw i,
“Rwyf yng Nghrist” yw ’nghri,
Am it roi dy hun
Rhof fy nyled lawr,
cael coron hardd.
Clywais d’alwad di

Pennill 5
Fy euogrwydd gym’raist ti
Pan elwais ar dy enw di
Gwaeddais am drugaredd ataf fi
“Mae’n bryd mynd yn ôl”

Amser dod adre
CCLI # 7172010
TIME TO COME HOME (Rachel Matthias)
© Song Solutions Daybreak (Gwein. gan Song Solutions www.songsolutions.org)
cyf. Arfon Jones

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • March 24, 2021