‘Does arnaf eisiau yn y byd Ond golwg ar dy haeddiant drud, A chael rhyw braw o’i nefol rin, I ‘mado’n lân â mi fy hun. Er bod dy haeddiant gwerthfawr drud Yn fwy na’r nef, yn fwy na’r byd, Yn rhyw anfeidrol berffaith Iawn, ‘Rwy’n methu gorffwys arno’n llawn. O flaen y drugareddfa fawr […]
A wyt ti’n un i fentro y cyfan oll i gyd? A fentret ti dy enaid i rywun yn y byd? Fe fentrais i fy enaid i Dduw y byd a’r nef, a mentrais dragwyddoldeb ar ei addewid ef. A fentri di y cyfan oll ar gariad Duw a’i air di-goll? A wyt ti’n un […]
Pennill 1 Bûm ar goll, (rwy’n) saff yn awr, Ei lais oedd yn ’ngalw nôl Bywyd fu ar chwâl, boddi yn y storm Rhedais oddi wrthyt ti Pennill 2 Yna clywais di’n galw arna i, “Tyrd yn ôl” Rhof fy nyled lawr, cael coron hardd Clywais d’alwad di Pont Yn dy freichiau di Syllaf i’th […]
Arglwydd, maddau in mor dlodaidd fu ein diolch am bob rhodd ddaeth o’th ddwylo hael i’n cynnal fel dy bobol wrth dy fodd: yn dy fyd rhown ynghyd ddiolch drwy ein gwaith i gyd. Arglwydd, maddau’n difaterwch at ddiodde’r gwledydd draw lle mae’r wybren glir yn felltith a’r dyheu am fendith glaw: lle bo loes […]
Y cread ŵyr y llais a ddaeth i’r gwagle mawr Y gwynt a ddaeth â’r llwch yn fyw a ffurfiodd sêr y nen Mae’r gwyll yn ofni’th lais A’i gyrrodd ef i ffwrdd ac er mai hir yw’r nos, Mi wn yn iawn y gwnei hyn eto nawr Un gair gen Ti Daw newid ar […]
Chwiliais drwy’r byd Doedd dim yn bodloni Canmoliaeth dyn Trysorau’r byd Mae’r cwbl mor wag Yna cyffyrddaist fi Iachau fy nghlwyfau dyfnion Rhoi gobaith a chân, rhoi ’nghalon ar dân Drwy’th gariad di A does dim byd sy’n well nag wyt ti (Na) does dim byd ’n well nag wyt ti Arglwydd, dim byd, dim […]
Pennill Beth bynnag sy o ‘mlaen Beth bynnag yr ofn Beth bynnag y gost Rwyt Ti’n dod yn nes Beth bynnag y boen Beth bynnag a ddaw Beth bynnag all ddod Mae’th gariad yn drech Mae’th gariad yn drech Cytgan Galwaf i Galwaf i arnat Ti Beth bynnag sy o’mlaen Ti’n fy nal i Syrthiaf […]
Boed i Dduw roi i ni yn ôl cyfoeth ei rym, Gryfder nerthol drwy’r ysbryd i’n person ni, Ac i Grist wneud ei gartref yn ein calon ni, Ac i ni ddod i wybod faint mae o’n ein caru ni! Cytgan Beth yw’r uchder? [codi breichiau] Beth yw’r dyfnder? [breichiau i lawr] Beth yw’r lled […]
Pennill 1 Er im gerdded drwy’r dyffryn Ac na welaf y ffordd Â’r cysgodion o ‘nghwmpas Fydd gen i ddim ofn Fe wn i dy fod yma Arlwyo wnei Di Er mai unig yw’r llwybr Rwyt Ti wrth f’ochr i Rhag-gorws Gorffwys f’enaid i Pwysaf ar neb ond Ti Cytgan Mae yr Arglwydd (fy) Mugail […]
Pennill 1 Rwyf yn ysu am weld y dydd caf ymuno â’r gân dragwyddol SANCTAIDD, SANCTAIDD. SANCTAIDD wyt Ti Iôr O flaen d’orsedd ymgrymaf i Gweld dy wyneb, oherwydd rwyt yn SANCTAIDD, SANCTAIDD. SANCTAIDD wyt Ti Iôr Corws Iesu, Frenin Nef Iesu, Mawredd Fry Ail-adrodd Pennill 1 Corws (X2) Pennill 2 Sefyll yng nghwmni dy […]