Anghrediniaeth, gad fi’n llonydd,
onid e mi godaf lef
o’r dyfnderoedd, lle ‘rwy’n gorwedd,
i fyny’n lân i ganol nef;
Brawd sydd yno’n eiriol drosof,
nid wy’n angof nos na dydd,
Brawd a dyr fy holl gadwynau,
Brawd a ddaw â’r caeth yn rhydd.
‘Chydig ffydd, ble ‘rwyt ti’n llechu?
Cymer galon, gwna dy ran;
obaith egwan, ble ‘rwyt tithau?
Tyn dy gledd o blaid y gwan:
anghrediniaeth, ffo o’r llwybyr,
nid rhaid imi frwydro’n hir;
er mai eiddil yw fy enw
eto i gyd ‘rwy’n ennill tir.
DAFYDD WILLIAM 1721?-94
(Caneuon Ffydd 729)
PowerPoint