Anturiaf ymlaen
drwy ddyfroedd a thân
yn dawel yng nghwmni fy Nuw;
er gwanned fy ffydd
enillaf y dydd,
mae Ceidwad pechadur yn fyw.
Mae f’enaid yn llon
a’m pwys ar ei fron;
er maint fy nhrallodion daw’r dydd
caf hedeg yn glau
uwch gofid a gwae
yn iach, a’m cadwynau yn rhydd!
DAVID DAVIES, 1763-1816
(Caneuon Ffydd 225)
PowerPoint