logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ar d’enw Di

Ar d’enw Di, fe ddymchwel y mynyddoedd
Ar d’enw Di, rhua a chwala’r moroedd
Ar d’enw Di, angylion a blyg, y ddaear a gân
Dy bobl rônt waedd

Arglwydd yr holl fyd, fe floeddiwn dy enw Di
Llenwi’r wybren fry â’n moliant di-derfyn ni
Yahweh, Yahweh
Fe garwn floeddio d’enw Iôr

Ar d’enw Di, fe dyrr y wawr i’th foli
Ar d’enw Di, mae’r creu yn canu’th stori
Ar d’enw Di, angylion a blyg, y ddaear a gân
Dy bobl rônt waedd

Does ’na neb sydd fel ein Duw
Fe addolwn, molwn
Does ’na neb sydd fel ein Duw
Ac fe ganwn, canwn
Does ’na neb sydd fel ein Duw
Fe addolwn, molwn
Iesu yw ein Duw
Canwn ni

At Your Name, Tim Hughes / Phil Wickham Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E Jones
© 2011 Thankyou Music (Gwein. gan Integrity Music www.integritymusic.com) / Phil Wickham Music (Gwein. gan Song Solutions www.songsolutions.org) / Seems Like Music (Gwein. gan Song Solutions www.songsolutions.org) / Sing My Songs (Gwein. Gan Song Solutions www.songsolutions.org)
Defnyddiwyd trwy ganiatâd
CCLI # 7157943

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • September 9, 2020