Ar ŵyl y cynhaeaf rhown ddiolch i’r Iôr
am roi bara i’n cadw ni’n fyw;
mae rhoddion yr Arglwydd o’n cwmpas yn stôr,
rhoddwn ddiolch i’r Arglwydd ein Duw, ein Duw,
rhown ddiolch i’r Arglwydd ein Duw.
Efe roddodd heulwen a glaw yn ei bryd,
ac aeddfedodd y dolydd a’r coed;
cawn gasglu eleni holl gyfoeth y byd,
mae yr Arglwydd mor hael ag erioed, erioed,
mae’r Arglwydd mor hael ag erioed.
Wrth inni loddesta ar lawnder pob pryd
mae’r anghenus yn wylo yn lli;
ei waedd sydd i’w chlywed o bellter ein byd:
“O rhanna dy fara â mi,” medd ef,
“O rhanna dy fara â mi.”
A chofiwn am ŵr a fu farw ar fryn,
gyda’i neges o gariad i ni:
“Yn gymaint â’i wneuthur i un o’r rhai hyn,
fe’i gwnaethost, fy nghyfaill, i mi,” medd ef,
“Fe’i gwnaethost, fy nghyfaill, i mi.”
J. PINION JONES © E. E. Jones Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 160)
PowerPoint