Arglwydd, bugail oesoedd daear,
llwyd ddeffrowr boreau’n gwlad,
disglair yw dy saint yn sefyll
oddi amgylch ein tref-tad.
Rhoist i ni ar weundir amser
lewyrch yr anfeidrol awr,
ailgyneuaist yn ein hysbryd
hen gyfathrach nef a llawr.
Arglwydd, pura eto’r galon,
nertha’r breichiau aeth yn llwfr,
trwy wythiennau cudd dy ddaear
dyro hynt i’r bywiol ddwfr.
Wele saint ffynhonnau Cymru
drosom fel yn nyddiau’r cnawd,
wele y Gŵr wrth ffynnon Jacob
ydyw’r Brenin ar ei rawd.
WALDO WILLIAMS, 1904-71 © Eluned Richards. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 838)
PowerPoint