logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Arglwydd Dduw teuluoedd Israel

Arglwydd Dduw teuluoedd Israel,
rho i ninnau’r fendith fawr
a goleua’n holl drigfannau
â goleuni’r nefol wawr:
O llewyrched
golau’r nef drwy dir ein gwlad.

Dyro fwynder ar yr aelwyd,
purdeb a ffyddlondeb llawn,
adfer yno’r sanctaidd allor
a fu’n llosgi’n ddisglair iawn:
na ddiffodded
arni byth mo’r dwyfol dân.

Aed gweddïau’r saint i fyny
hwyr a bore’n ebyrth byw,
a’u ffenestri fo’n agored
tua Salem, dinas Duw:
dan dy fendith
cadw’n gwlad o oes i oes.

J. T. JOB, 1867-1938

(Caneuon Ffydd 824)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 10, 2015