Arglwydd Dduw, ti a wnaeth y ddaear
A’r nef drwy d’allu mawr.
Arglwydd Dduw, Ti a wnaeth y ddaear
A’r nef drwy dy ddwyfol fraich.
‘Does dim sy’n rhy anodd i Ti,
‘Does dim sy’n rhy anodd i Ti,
O nerthol, fywiol Dduw,
Mawr dy gyngor a chryf yn dy waith,
‘Does dim, na dim, dim byd ar y ddaear,
‘Does dim sy’n rhy anodd i Ti.
Kay Chance: Ah Lord God, thou hast made the heavens, Cyfieithiad Awdurdodedig: Catrin Alun
Hawlfraint © Kay Chance
Shekinah Ministries, Route 3, Glory Rd., Blountville, Tennessee 37617.
(Grym Mawl 1: 2)
PowerPoint
Datganiad Hawlfraint
Mae gobaith.org yn darparu'r ffeiliau PowerPoint hyn o gyfieithiadau o ganeuon mawl Saesneg fel gwasanaeth rhad ac am ddim, ond amddiffynnir yr holl ganeuon gan ddeddf hawlfraint. Gall deiliaid Trwydded Hawlfraint Eglwysi lawrlwytho ac atgynhyrchu geiriau'r caneuon hyn yn unol ag amodau eu trwydded, a dylent gynnwys pob cân a ddefnyddir yn eu hadroddiad defnydd o ganeuon blynyddol. Os nad oes trwydded hawlfraint gennych bydd rhaid derbyn caniatâd gan berchennog pob cân y dymunwch ei lawrlwytho a/neu ei hatgynhyrchu. Am fanylion pellach am y Drwydded Hawlfraint Eglwysi ewch i www.ccli.com neu ffoniwch 01323 436103.