Arglwydd, dyma fi,
Rhof fy hun yn llwyr i ti.
Profais rym y gras gefais ynot ti.
Ac Arglwydd, gwn yn wir
‘Bydd pob un gwendid sydd ynof fi
Yn diflannu’n llwyr
Trwy dy gariad a’th ras.
Dal fi’n dynn, diogel yn dy gwmni.
Tynn fi’n nes at dy ochr di;
Â’th Ysbryd wna im godi fel yr eryr
I hedfan gyda thi – ti sy’n fy nghynnal i
Trwy dy gariad a’th ras.
Gad i’m weld yn glir
Yn dy wyneb di, fy Nuw,
Dy gariad pur a’th ras
rydd i’m fodd i fyw.
Rhof fy hun i ti –
Adnewydda ‘meddwl i
Er mwyn im fyw bob dydd
Yn dy gariad a’th ras.
Lord, I come to you, Geoff Bullock. Cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones
©1992 Word Music. Gweinyddir gan CopyCare
(Grym Mawl 2: 87)
PowerPoint