Arglwydd ein Iôr,
mor ardderchog yw d’enw di drwy’r holl ddaear.
Arglwydd ein Iôr,
mor ardderchog yw d’enw di drwy’r holl ddaear.
Gosodaist dy ogoniant
uwchlaw y nefoedd,
O enau plant y peraist fawl i’th hun;
Ti a roist y lloer a’r holl sêr yn eu lle,
Beth yw dyn i ti fy Nuw?
Beth yw dyn iti i ymboeni Arglwydd?
A beth yw mab dyn i ti’ gofio ef?
Fe osodaist ti bopeth dan ei draed,
Awdurdod roddaist iddo ef.
(Wedi ei seilio ar Salm 8)
(Grym Mawl 1: 127)
Cyfieithiad Cymraeg Awdurdodedig: Arfon Jones
Saesneg: O Lord, our Lord, Hilary Davies
Hawlfraint © 1988 Coronation Music Publishing/ Gwein. gan Kingsway Music
tym@kingsway.co.uk. Defnyddir trwy ganiatâd.